Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Tweets by @BESHBangor1

Croeso i Grwp Synthesis o Dystiolaeth Bangor (BESH)

 

Mae BESH yn rhwydwaith amlddisgyblaethol sy'n anelu at ddod â phobl sydd â diddordeb mewn datblygu a defnyddio dulliau cyfuno tystiolaeth mewn gwahanol gyd-destunau rhyngddisgyblaethol ynghyd.

Hwylusir BESH gan grŵp craidd sydd â diddordeb mewn datblygu gallu ymchwil ym Mangor, sy'n canolbwyntio'n benodol ar fethodoleg cyfuno tystiolaeth. Mae aelodau BESH yn bobl sy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â chynnal synthesis tystiolaeth mewn unrhyw ddisgyblaeth.

Mae aelodau presennol BESH yn dod o bob rhan o'r Brifysgol, yn cynnwys yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru a'r Ganolfan ar gyfer Cadwraeth ar sail Tystiolaeth, ac rydym yn croesawu aelodau newydd o unrhyw ddisgyblaeth sydd â diddordeb mewn methodolegau adolygu tystiolaeth.

Mae gennym ddiddordeb penodol yn y canlynol:

  • Defnyddio dulliau a phrosesau adolygu mewn gwahanol gyd-destunau a chyd-destunau cyd-ddibynnol megis iechyd, gofal cymdeithasol, yr amgylchedd a chadwraeth
  • Yr heriau methodolegol sydd ynghlwm wrth drefnu, casglu a chyfannu gwahanol ffynonellau o dystiolaeth
  • Mae dod â phobl â gwahanol safbwyntiau at ei gilydd yn gyfle unigryw i hyrwyddo cydweithio, rhannu arbenigedd a gwella dealltwriaeth o faterion methodolegol.

Drwy harneisio'r arbenigedd adolygu rhyngddisgyblaethol, mae'r grŵp yn bwriadu datblygu:

  • cynigion i wneud ymchwil i ffynonellau ariannu allanol o ansawdd uchel
  • adeiladu'r gallu i gyfuno tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor
  • gwaith cydweithredol rhyngddisgyblaethol
  • gweithredu cyfuno tystiolaeth
  • methodoleg sy'n gysylltiedig â chyfuno tystiolaeth

Mae aelodau craidd y grŵp yn:

  • rhoi eu hamser i gymryd rhan a chyfrannu'n weithredol at graidd y grŵp
  • cyfrannu at drafodaethau methodolegol mewn cyfarfodydd bob dwy flynedd
  • helpu'r grŵp i wireddu'i ddiben
  • creu pont rhwng BESH a'u disgyblaeth/grŵp eu hunain

Yn ogystal â'r grŵp craidd, mae BESH hefyd yn cadw rhestr e-bost er mwyn rhoi gwybod i unrhyw un sydd â diddordeb am unrhyw seminar, gweithdy neu gwrs sy'n berthnasol i'r synthesis tystiolaeth rydym yn ei gynnal.
Os hoffech ymuno â'r grŵp neu'r rhestr e-bost, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod.

 

Grŵp Sefydliadol


 

 

Site footer