Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cyfarfodydd a digwyddiadau

Cyfarfod nesaf:

Rhagor o wybodaeth yn dod yn fuan......

 

Cyfarfodydd blaenorol

Dydd Llun 9fed Gorffenaf 2018, Yr Athro Jane Noyes: GRADE CERQual: Dull arloesol o asesu faint o hyder i'w roi yn y canfyddiadau o gyfosodiadau dystiolaeth ansoddol. Sleidau ar gael yma.

17ed Hydref 4yh, Digwyddiad Caffi BESH, Bangor Ystafell 14 Fron Heulog a Wrecsam Ystafell Gynhadledd Cambrian 2.

Rydym yn trefnu digwyddiad caffi min nos cynnar ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb ym methodoleg casglu tystiolaeth.

  • Yw'r maes casglu tystiolaeth yn newydd i chi ac ydych chi'n ansicr beth sy'n cyd-fynd â'ch cynlluniau ymchwil?
  • Ydych chi wedi dod ar draws unrhyw heriau penodol wrth fynd ati i gasglu tystiolaeth yr hoffech chi gael barn/syniadau pobl eraill yn eu cylch?
  • Oes gennych chi brofiad o unrhyw beth sy'n gweithio'n dda o ran y broses o adolygu tystiolaeth yr hoffech ei rannu â phobl eraill?

Dydd Llun 24 Ebrill 2017, 10-11.30am, Cwrs Hyffordiant yr Ysgol Ddoethurol: Cyflwyniad i Chwilio ar gyfer Adolygiadau Systematig. Bydd y sesiwn hon yn darparu awgrymiadau chwilio ar gyfer “Adolygiadau Systematig”, yn cynnwys: cynllunio strategaeth chwilio briodol, chwilio cronfeydd-ddata gan gynnwys defnyddio MeSH a mynegeion eraill, ddefnyddio ffilterau chwilio, dogfennu'r broses chwilio, a rheoli cyfeiriadau gan ddefnyddio RefWorks. Yn agored i bob aelod o staff a myfyrwyr.

Dydd Gwener 17 Chwefror 2017, 13:00 yn ystafell 5 Fron Heulog, neu ystafell 14 Cambrian 1 (Wrecsam), i glywed drwy fideogynhadledd gan Dr Andrew Booth, Darllenydd mewn Arfer Gwybodaeth Seiliedig ar Dystiolaeth a Chyfarwyddwr Gwybodaeth yn yr Ysgol Iechyd ac Ymchwil Cysylltiedig, Prifysgol Sheffield. Same Species or Different Animal?: a working comparison between Systematic Reviews and Qualitative Evidence Syntheses
Existing methodology for systematic reviews of qualitative research (also known as qualitative evidence syntheses) either assumes that they can be patterned on systematic reviews of effectiveness or that they represent a demonstrably different type of process and output. To what extent can these views be reconciled, if at all? What are the implications of these contrasting views for the development of systematic review methods more generally? Sleidau ar gael yma.

Hydref 24, 2016, 14.00-16.00 Ystafell Teras 3 gyda chysylltiad fideo gynhadledd â Wrecsam

Mae BESH a'r tîm Cefnogaeth Ddata Ymchwil, Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau yn cyflwyno:

Mynediad agored i ddata ymchwil sensitif

Siaradwyr gwadd:

Yr Athro Mark Elliot, Athro Gwyddor Data, Prifysgol Manceinion a Rhwydwaith Anhysbysrwydd y DU (drwy gynhadledd fideo)

Dr Catrin Tudur Smith, Darllenydd mewn Ystadegau Meddygol, Prifysgol Lerpwl, teitl ei chyflwyniad: Egwyddorion arfer da ar gyfer rhannu data cyfranogwyr unigol o dreialon clinigol a ariennir yn gyhoeddus

Gorffenaf 14, 2016, Wrecsam gyda chysylltiad fideo gynhadledd â Fangor. Cyflwynodd Dr Nicola Randall (Centre for Evidence Based Agriculture, Harper Adams University) yn Saesneg am y pwnc "Systematic mapping to inform decision making". Sleidiau ar gael yma. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfod gweithredol ar gyfer y grŵp, buom yn trafod trefnu cyfres fwy rheolaidd o sgyrsiau, ac agor aelodaeth y grŵp i gynulleidfa ehangach.

Ebrill 7, 2016, Fron Heulog gyda chysylltiad fideo gynhadledd â Wrecsam.  Cyflwynodd Dr Beth Hall sgwrs methodoleg ar Chwilio Llenyddiaeth Lwyd: sleidiau ar gael yma. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfod gweithredol ar gyfer y grŵp, buom yn trafod cynlluniau ar gyfer cofnodi gweithgareddau grŵp a diddordebau aelodau.

Gorffennaf 31, 2015, Fron Heulog gyda chysylltiad fideo gynhadledd â Wrecsam. Cyflwynodd Dr Neal Haddaway sgwrs methodoleg “Define 'systematic'! The need for a universal standard definition of a 'systematic' review”.

 

 

Site footer